1. {0><}100{>Cyflwyniad<0}
1.1 {0><}100{>Penodwyd Cyngor Gwynedd yn Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Ebrill 2012. Mae ACGCC yn gyfrifol am gyflawni gofynion Cytundeb Asiant Rheoli Llywodraeth Cymru (CARhLlC) a gofynion y Ddeddf Priffyrdd yn cynnwys y 'ddyletswydd i gynnal' statudol dan awdurdod dirprwyedig gan LlC.<0}
1.2 {0><}100{>Mae rôl yr Asiant yn cynnwys y swyddogaethau a ganlyn:<0}
· {0><}100{>Archwilio asedau priffyrdd i bennu cyflwr yr asedau ac adnabod peryglon diogelwch;<0}
· {0><}100{>Adnabod gofynion gwella ac adnewyddu cynnal a chadw ar gyfer yr holl asedau priffyrdd a chyflwyno bidiau priodol i LlC i gynorthwyo gyda phenderfyniadau ariannu;<0}
· {0><}100{>Pennu dichonoldeb ac ymgymryd â dyluniadau manwl ar gyfer cynlluniau adnewyddu cynnal a chadw, uwchraddio a mân welliannau;<0}
· {0><}100{>Ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac ymatebol ar y rhwydwaith Cefnffyrdd yn cynnwys cywiro diffygion diogelwch ac ymateb i ddigwyddiadau brys o fewn amserlenni penodol;<0}
· {0><}100{>Darparu cyngor i LlC ar faterion gweithredol, ceisiadau am wasanaeth gan y cyhoedd ac aelodau etholedig;<0}
· {0><}100{>Gweithredu Gwasanaeth Swyddog Traffig LlC a swyddogaethau Ystafell Reoli'r rhwydwaith;<0}
· {0><}100{>Rheolwr Twneli Statudol;<0}
· {0><}100{>Cynrychiolydd Adrannol ar gyfer Contract Dylunio Adeiladu Cyllido Gweithredu yr A55;<0}
· {0><}0{>Rheoli cyllideb gan LlC o tua £50m.<0}
2. {0><}100{>Cefndir<0}
2.1 {0><}100{>Adolygwyd trefniadau rheoli Cefnffyrdd yng Nghymru gan LlC rhwng 2002 a 2005 a rhesymolwyd nifer yr Asiantau o wyth i’r hyn a ystyriwyd yn nifer optimwm o dri yn 2005/6 gan ffurfio Asiantau Cefnffyrdd Gogledd, Canolbarth a De Cymru.<0}
2.2 {0><}0{>Rhwng 2007 a 2013 mae nifer o archwiliadau allanol llwyddiannus wedi’u comisiynu gan LlC wedi’u cynnal gan Halcrow yn 2007, EC Harris yn 2008, Performance Audit Group yn 2011 a 2012 ac EC Harris yn 2013. Roedd Archwiliad EC Harris yn 2008 yn cynnwys ymarferiad meincnodi ledled Cymru a chyda gwasanaethau tebyg a ddarperir gan y sector preifat yn yr Alban.<0} {0><}100{>Cadarnhaodd yr adolygiad llwyddiannus fod y model sector cyhoeddus sy’n weithredol yng Nghymru yng nghyd-destun economi Cymru yn darparu Gwerth am Arian ac adnewyddwyd trefniadau’r Asiant yn 2012. Nododd LlC fel a ganlyn yn ei llythyr penodi:<0}“{0><}100{>Dyma ganlyniad cadarnhaol iawn ar gyfer y model darparu sector cyhoeddus unigryw sydd gennym yng Nghymru, a fydd bellach yn parhau yn sgil sefydlu ei fod yn gost effeithiol wrth gymharu â modelau preifat eraill fel rhan o'r adolygiad.”<0}
2.3 {0><}100{>Mae ACGCC wedi parhau gyda phroses gynhwysfawr o welliannau parhaus ers 2012 ac mae hyn wedi cynnwys gwelliannau pellach i fesurau llywodraethu ar gyfer gweithredu cadwyni cyflenwi’r Asiant.<0} {0><}100{>Mae ACGCC hefyd yn gweithredu o fewn System Rheoli Ansawdd (SRhA) achrededig.<0}
2.4 {0><}100{>Cynhaliwyd archwiliad o ACGCC gan archwilwyr allanol LlC, EC Harris, ym mis Rhagfyr 2013 a phrif ganfyddiadau’r archwiliad oedd:<0}
· {0><}100{>”Bod cytundeb cyffredinol ymysg y swyddogion LlC a gyfwelwyd bod yr Asiant yn ymgymryd â’r waith mewn modd proffesiynol ac nad oedd unrhyw faterion yn nhermau perfformiad.<0}”
· “...ystyriodd y tîm archwilio fod y gwasanaeth cyfredol a ddarperir gan yr Asiant yn cael ei gynnal mewn modd proffesiynol ac agored iawn.<0}”
{0><}100{>Cafwyd nifer o argymhellion ar gyfer gwella o fewn yr adroddiad archwilio ac mae ACGCC wedi gweithredu mesurau sy’n mynd i’r afael â'r argymhellion hynny, yn cynnwys:<0}
· {0><}100{>Adolygiad llwyr o’i Restr Gyfraddau (RhG) i ddarparu tryloywder llawn o’r costau.<0}
· {0><}100{>Newidiadau i’r model comisiynu ymgynghoriaeth yn cynnwys defnyddio ffi sefydlog a phrofi’r farchnad gyda’r sector preifat.<0}
3. {0><}100{>Y graddau y mae’r ymagwedd gyfredol tuag at waith cynnal a chadw rheolaidd ar y rhwydwaith drwy'r Asiantau Cefnffyrdd yn darparu gwerth am arian.<0}
3.1 {0><}100{>Mae model gweithredu ACGCC a gytunwyd gyda LlC yn 2005 ac a gadarnhawyd ymhellach yn 2012 yn seiliedig ar ethos sector cyhoeddus cadarn gan ddarparu gwasanaethau drwy ddefnyddio adnoddau lleol a geir gan gyflenwyr sector cyhoeddus a phreifat.<0} Mae ACGCC yn gweithredu fel uned ‘hyd-braich’ ymreolaethol yn sicrhau cywirdeb a trefn lywodraethol wrth reoli buddiannau LlC ac yn sicrhau rheolaeth diduedd effeithiol o’r drefn partneriaeth. {0><}0{>Mae cost yr Uned Rheoli Cefnffyrdd (URhC) yn cael ei ailgodi ar gost i LlC gyda dim gweddill nac elw’n cael eu cynhyrchu gan yr Awdurdod Arweiniol. Agwedd bwysig o ddirprwyo i Awdurdod Arweiniol trwy ‘r CARhLlC, a’r trefniadau partneriaeth ffurfiol gyda’r Darparwyr Gwasanaeth Awdurdod Lleol (ALl) yw ei fod yn galluogi i LlC i elwa o adennill TAW sy’n cyfateb i 20% o werth gwaith cynnal a gwasanaethau a wnaed.
3.2 {0><}100{>Mae strategaeth gaffael gyffredinol ACGCC yn sicrhau y gwneir y gorau o’r cyfleoedd i gyflenwyr Mentrau Bach a Chanolig lleol, Cymreig. Mae ACGCC yn parhau i wella lefelau tryloywder, beincnodi, a chystadleuaeth i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu darparu ar gyfraddau’r farchnad.<0}
3.3 {0><}100{>Mae model ACGCC yn gweithredu ar sail gwasanaethau integredig sy’n cael eu caffael drwy ei Awdurdodau Partner gan sicrhau y gwneir y gorau o fuddion darbodion maint sylweddol uwch a chyfleoedd rhannu costau a’u bod yn cael eu rhannu rhwng yr Awdurdodau Partner a LlC.<0} {0><}100{>Mae tryloywder yn sicrhau bod costau’n cael eu dosrannu yn briodol.<0} {0><}100{>Mae’r model yn galluogi i LlC wneud defnydd o nifer sylweddol o ddepos priffyrdd ac eitemau peiriannau mawr sydd wedi’u dosbarthu ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru gan olygu y gwneir y defnydd gorau ohonynt yn benodol ar gyfer cynnal a chadw yn y gaeaf ac ymateb i argyfyngau.<0} {0><}100{>Ni fyddai’r elfen Gefnffyrdd ar ei phen ei hun yn ddigon i gefnogi'r trefniant hwn.<0} {0><}100{>Mae hyn yn enghraifft batrymol o gydweithio rhwng Llywodraeth Leol a Chanolog.<0}
3.4 {0><}100{>O fewn y gwasanaeth integredig, mae lefel sylweddol o adnoddau peiriannau a llafur ar gael drwy drefniadau cymorth ffurfiol i ymdrin â digwyddiadau eithriadol a ddaw yn sgil tywydd gwael iawn neu wrthdrawiadau traffig ffordd mawr.<0} {0><}100{>Mae LlC yn elwa o’r adnoddau sylweddol hyn ar sail rhannu costau ond yn ystod digwyddiadau mawr bydd ganddi fynediad i adnoddau ymhell y tu hwnt i’r rheini fyddai’n eu cael o ran lefel y cyfraniad.<0}
3.5 {0><}100{>Mae gwasanaethau craidd yn cynnwys gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac ymatebol yn cael eu caffael drwy Awdurdodau Partnerol Lleol yn defnyddio cyfuniad o adnoddau mewnol a chyflenwyr sector preifat Mentrau Bach a Chanolig. Mae oddeutu 50 i 60% o wariant gwasanaeth craidd gyda chyflenwyr sector preifat yn cael eu caffael drwy brosesau cystadleuol.<0} {0><}100{>Mae perfformiad y gadwyn gyflenwi yn cael ei fonitro a’i asesu yn unol â gofynion CARHLLC.<0} {0><}0{>Mae gwaith Cynnal a Chadw mawr a gwaith “cyfalaf” arall yn cael ei wneud gan Gontractwr sector preifat a chadwyn gyflenwi Fframwaith Wynebu’r Asiantaeth.<0} {0><}0{>Mae dylunio a gwaith ymgynghori arall yn cael ei wneud drwy gyfuniad o gadwyn cyflenwi sector cyhoeddus a sector preifat.<0}
3.6 {0><}100{>Mae’r model uchod yn sicrhau y gellir cadw’r adnoddau llafur sydd ynghlwm â gwasanaeth cynnal a chadw gaeaf integredig ar sail cost effeithiol drwy leoli’r adnoddau hynny, wedi’i ategu gan adnoddau sector preifat Mentrau Bach a Chanolig ar swyddogaethau cynnal a chadw nad ydynt yn rhai gaeaf.<0} {0><}100{>Mae effeithlonrwydd cyffredinol y model hwn yn cael eu rhannu rhwng LlC a'r Awdurdodau Partner.<0}
3.7 {0><}0{>Mae rheoli o fewn y gyllideb yn agwedd allweddol o fodel ACGCC ac mae’r amrywiant rhwng y clustnodiad terfynol a ganiatawyd a’r canlyniad gwariant yn cael ei gyflawni'n gyson i rhwng +/- 1% ar glustnodiad cyffredinol y gyllideb.<0}
3.8 {0><}100{>Mae ACGCC yn gweithredu mewn partneriaeth gyda LlC gan fabwysiadu gwerthoedd sector cyhoeddus cyffredin a diwylliant cydweithredol sy’n osgoi agweddau anghynhyrchiol costus a geir mewn sawl trefniant mwy cytundebol.<0}
3.9 {0><}100{>Mae ACGCC wedi profi ei fod yn medru addasu'n rhwydd i ofynion newidiol LlC ynghylch ystod y gwasanaethau sydd eu hangen ac mae wedi ychwanegu'r gwasanaethau isod yn llwyddiannus i'w rôl fel Asiant:<0}
· {0><}100{>Rôl Rheolwr Twneli Statudol 2006;<0}
· {0><}100{>Gwasanaeth Cefnogi Digwyddiadau mewn Twneli yn 2008;<0}
· {0><}100{>Gwasanaeth Swyddogion Traffig yn 2009:<0}
· {0><}100{>Ystafell Reoli Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru 2010;<0}
· {0><}100{>Uno ag Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru (ACCC) yn 2012;<0}
· {0><}100{>Cyngor Rheolaeth Datblygu 2012;<0}
· {0><}100{>Symud i SGFFI yn 2012.<0}
3.10 {0><}100{>Pe byddai’r newidiadau uchod wedi’u gweithredu drwy fodel sector preifat / trosglwyddo risg, byddai'r goblygiadau cytundebol, cost a chyflawni wedi bod yn sylweddol.<0}
4. {0><}100{>Sut gellir gwella’r Swyddogaethau cynnal a chadw a gwella a gyflawnir gan yr Asiant Cefnffyrdd, yng nghyd-destun adolygiad parhaus Llywodraeth Cymru o’r Asiantau hynny?<0}
4.1 {0><}100{>Mewn ymateb i Ddatganiad y Gweinidogion ar 11 Tachwedd 2013, mae’r Asiantau Cefnffyrdd yn paratoi sylwadau i LlC ar hyn o bryd er mwyn dangos cynigion i fodloni'r amcanion Gweinidogol a ganlyn:<0}
· {0><}100{>Gyrru a chyflawni arbedion cost sylweddol yn y swyddogaethau Rheoli, Cynnal a Chadw ac Archwilio;<0}
· {0><}100{>Gwella ystwythder i fodloni anghenion newidiol LlC; <0}
· {0><}100{>Cytgordio’r ymagwedd ledled Cymru.<0}
4.2 {0><}100{>Mae ACGCC wedi adnabod newidiadau i fodel darparu Asiant a fydd yn cyflawni arbedion i LlC yn seiliedig ar fewnoli'r rhan fwyaf o swyddogaethau craidd o fewn yr Asiant yn cynnwys adolygu sut mae gwaith yn cael ei gomisiynu a newid y swyddogaeth archwilio i sail fwy rhanbarthol.<0} {0><}100{>Bydd gofyn ailstrwythuro’r Asiantaeth ar y cyd â’r ailstrwythuro sydd ei angen yn dilyn trosglwyddo swyddogaeth cynllunio’r Asiant i LlC ym mis Ebrill 2014.<0}
4.3 {0><}100{>Mae’r heriau y mae ACGCC yn eu hwynebu a'r cyfyngiadau ar gyflawni yn cynnwys:<0}
· {0><}100{>Newidiadau i glustnodi cyllidebau gyda chyfleoedd ariannu'n codi'n rheolaidd yn chwarter pedwar all roi pwysau sylweddol ar gadwyn gyflenwi ac argaeledd ffyrdd ACGCC;<0}
· {0><}100{>Mae gweithio o fewn cyfnodau embargo Cefnffyrdd yn creu trefniadau rhaglenni heriol;<0}
· {0><}0{>Gofynion gweithredu cynlluniau ar frys a achosir, er enghraifft, gan fethiant i asedau.<0}
· {0><}0{>Mae LlC yn gweithredu newidiadau sylweddol ar hyn o bryd drwy fewnoli'r swyddogaeth Cynllunio ac integreiddio'i systemau TG.<0}
4.4 {0><}59{>Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae ACGCC wedi sefydlu cadwyn gyflenwi ystwyth iawn sy’n ein galluogi i fodloni’r trefniadau darparu uchod yn gyson drwy allu gynyddu neu ostwng i fodloni blaenoriaethau cyllideb o fewn y flwyddyn a’r rhai blynyddol.<0} {0><}100{>Mae manteision gallu craidd sector cyhoeddus sydd â gwybodaeth am y rhwydwaith yn osgoi ‘dechrau o’r newydd’ ac oedi i gyflwyno’r prosiect ac mae’r adnoddau estynedig sydd ar gael o fewn ei fframweithiau sector preifat yn galluogi ymateb yn gyflym i ofynion newidiol LlC a hynny mewn modd cost effeithiol.<0}
4.5 {0><}100{>Mae ACGCC bellach yn mabwysiadu strategaeth gyflwyno sy’n galluogi iddo fynd i’r afael â’r heriau uchod drwy ganolbwyntio ar baratoi cynlluniau yn ystod chwarter 1 a 2 gyda’r camau adeiladu wedi’u rhaglennu ar gyfer eu darparu yn yr hydref / gaeaf.<0} {0><}100{>Byddai cael gwybod yn gynharach am gyfleoedd ariannu hwyr yn cynorthwyo Asiantau Cefnffyrdd wrth gwneud y gorau o werth am arian wrth gyflwyno gwelliannau i’r rhwydwaith.<0}
4.6 {0><}100{>Ar hyn o bryd, mae amrediad o declynnau rheoli asedau gwahanol yn cae eu defnyddio i asesu a blaenoriaethu penderfyniadau ariannu.<0} {0><}100{>Byddai ymagwedd rheoli asedau fwy ffurfiol yn cynorthwyo gyda gwella rheoli asedau yn yr hir dymor a chostau oes cyfan cysylltiedig.<0} {0><}100{>Mae hyn yn cael ei fwrw ymlaen yn rhannol gan ddefnyddio’r System Gwybodaeth Ffyrdd Integredig (SGFfI) sy’n cael ei datblygu gan yr ymgynghorwyr WDM ar ran LlC.<0} {0><}100{>Unwaith y bydd wedi’i gweithredu’n llawn, dylai’r system gynorthwyo LlC i wneud penderfyniadau ariannu gwell ar draws yr holl fathau o asedau.<0} {0><}100{>Mae'r ddau Asiant Cefnffyrdd yn gweithio’n agos gyda LlC a’u contractwr i sicrhau bod y cynllun pwysig hwn yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus.<0} {0><}100{>Byddai cyflwyno SGFFI yn gynnar yn gwella effeithiolrwydd darpariaeth LlC a'r Asiant.<0}
4.7 {0><}100{>Mae’r gostyngiad mewn buddsoddiad mewn gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio yn cynyddu graddau’r gwaith cynnal a chadw ymatebol sydd ei angen i gynnal diogelwch gweithredol y rhwydwaith.<0} {0><}100{>Rhaid optimeiddio’r cydbwysedd rhwng gwaith cynnal a chadw wedi’i raglennu a gwaith cynnal a chadw ymatebol o fewn yr arian sydd ar gael yn sgil y costau uchel a’r aflonyddwch sydd ynghlwm ag ymagwedd ymatebol.<0} {0><}100{>Mae sgôp hefyd i wella lefelau triniaethau cynnal a chadw ataliol i gynyddu oes gweithredol asedau.<0}
4.8 {0><}100{>Mae natur y rhwydwaith Cefnffyrdd yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol o draffyrdd/ffyrdd deuol i ffyrdd sengl gwledig.<0} {0><}91{>Mae ffyrdd sengl hefyd yn amrywio o rannau coediog iawn i fylchau mynyddig a rhannau arfordirol.<0} {0><}96{>Mae rhan helaeth o’r rhwydwaith wedi’i datblygu o lwybrau hanesyddol gyda rhannau hir nad ydynt erioed wedi’u dylunio na’u cynllunio i safonau cyfredol.<0} {0><}100{>Mae hyn yn achosi amrywiaeth o heriau gweithredol a chynnal a chadw.<0}
4.9 {0><}100{>Mae Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru (LlCChCLlC) yn pennu safonau ar gyfer cynnal a chadw ledled Cymru ond nid yw’n ystyried rhannau penodol o fathau o rwydwaith.<0} {0><}100{>Mae potensial i ymagwedd fwy cost effeithiol i gynnal a chadw’r rhwydwaith drwy fabwysiadu ymagwedd gwybodaeth weithredol sy’n seiliedig ar risg yn wahanol i ymagwedd gyffredinol, sydd â’r potensial o fod yn aneffeithiol.<0} {0><}100{>Byddai profiad gweithredol ACGCC a’i wybodaeth am y rhwydwaith yn galluogi iddo ddatblygu amrywiadau lleol priodol i LlCChCLlC ar draws nifer o fathau o asedau i gyflawni system cynnal a chadw mwy cost effeithiol gan reoli risg LlC i lefel dderbyniol.<0}
4.10 {0><}0{>Drwy feincnodi, mae ACGCC yn adnabod meysydd o arfer gorau o fewn ei gadwyn gyflenwi gyda chyfleoedd i drosglwyddo'r arferion hyn ar draws ei gyflenwyr gan gynhyrchu effeithlonrwydd cost cysylltiedig.<0} {0><}0{>Mae ACGCC hefyd yn ymgymryd ag asesiad rheoli LEAN o’r hyn y mae’n ei gyflwyno er mwyn gyrru effeithlonrwydd cost pellach.<0}
4.11 {0><}0{>Yn hanesyddol, mae’r ddau Asiant Cefnffyrdd wedi gweithio ar y cyd a byddant yn adeiladu ar y platfform hwn i wellau lefelau cytgordio ymhellach ledled Cymru.<0} {0><}0{>Mae’r cynlluniau sy’n cael eu cyflwyno yn cynnwys paratoi Cytundeb Lefel Gwasanaeth cyffredinol a methodoleg Rhestr Gyfraddau.<0}
5.0 {0><}84{>Sylwadau i gloi<0}
5.1 {0><}0{>Mae’r model Asiant Cefnffyrdd cyfredol wedi profi, drwy brosesau adolygu niferus, ei fod yn darparu lefelau da o werth am arian drwy ei gadwyni cyflenwi sector cyhoeddus a phreifat gan weithredu o fewn systemau rheoli perfformiad a llywodraethu cadarn.<0}{0><}0{>Mae gweithredu model gwasanaeth integredig yn darparu darbodion maint sylweddol a’r gallu i optimeiddio darpariaeth gwasanaeth er lles LlC ac Awdurdodau Lleol.<0} {0><}0{>Mae’r gadwyn gyflenwi sydd wedi’i sefydlu yn creu cyfleoedd sylweddol i Fentrau Bach a Chanolig yng Nghymru i ymgymryd â gwaith Cefnffyrdd drwy gyswllt uniongyrchol gyda’r Asiant drwy fframweithiau neu fel rhan o’r gadwyn gyflenwi estynedig ar ddarperir gan Awdurdodau Lleol.<0} {0><}0{>Mae hyn yn dod â manteision sylweddol i economïau lleol a chenedlaethol Cymru ac yn cynorthwyo wrth greu a chynnal cyfleoedd gwaith lleol o ansawdd.<0}
5.2 {0><}0{>Fodd bynnag, mae bob amser sgôp i wella’r model ymhellach ac mae’r ddau Asiant yn gweithio’n galed i gyflawni hyn er mwyn bodloni'r heriau a gyflwynir gan y Gweinidog a sicrhau y parheir y ddarparu gwerth am arian.<0}
{0> <}0{>David Cooil, Pennaeth Gwasanaeth – Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru<0} Uned 7, Llys Onnen, Ffordd y Llyn, Parc Menai, Bangor LL57 4DF (01286 685182) davidcooil@ACGCC.org.uk |